Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mai 2014
Yr amserlen ar gyfer ystyried y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
ar gyfer Y Bil Cymru
1. Ar 6 Mai 2014, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4, i wahodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a’r Pwyllgor Cyllid i ystyried a chyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cymru.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 29.5, cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r pwyllgorau gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 26 Mehefin 2014.